DSC09855.jpg

sioeau

DSC09855.jpg

sioeau

Gweler isod y perfformiadau sydd ar gael i'w bwcio nawr ynghyd â manylion hen sioeau a fy ngwaith cyfarwyddo a dramatwrgi ar gyfer storïwyr. Y mae’r sioeau yn cynnwys sioeau gydag artistiaid eraill, sioeau un dyn a chynyrchiadau rwy wedi'‘u cyfarwyddo. Cliciwch ar y ffotos am ragor o wybodaeth am bob sioe.

Ar Y Gweill

Y Llyn - the Lake

Stori ddwyieithog o’r dyfnderoedd gyda cherddoriaeth fyw


2 Sioe Newydd Sbon

Crëwyd ar lein, llwyfannwyd yn Ffwrnes, ar daith nawr

Myth hynafol ar gyfer heddiw

Y mae’r sioe arbrofol hon yn plethu cerddoriaeth, dawns a chwedl er mwyn i adfywio myth hynafol ar gyfer heddiw. Cydweithrediad rhwng artistiaid o Arabia, India a Chymru

A show that blends music, dance and story to bring an ancient myth right up to date. A Collaboration between artists from UAE, India and Wales

rhagor o fanylion yma - more information here

Sioeau Cyfredol

y mabinogi ar ei newydd wedd

Addasiad y 4edd Gainc gan y criw a greodd Hunting the Giant's Daughter.

culhwch ac olwen ar garlam

Sioe arobryn ar daith ers 2011.

hud, lledrith a thrais

Stori hudolus ac ysgytwol o'r Mabinogi sydd yn plymio yn ddwfn i mewn i dirwedd Cymru a thirwedd yr enaid.

gwaed a chwant

Addasiad bywiog cerdd hir Shakespeare The Rape of Lucrece sydd yn cyfuno geiriau Shakespeare, chwedleua a cherddoriaeth fyw.

iâr ar yr heol

Mae arian ar y brenin i'r iâr. Sut mae cael ei harian nôl heb gael ei bwyta gan ei chyd-deithwyr y cadno a'r blaidd?

gwylltineb y gwyll

Stori werin o Lydaw sy'n plethu merched sydd eisiau gwisgo fel dynion, dyn mawr blewog, llithiad brenhinol a diweddglo ffrwydrol.


Hen Sioeau

Arbrawf Cymru a Ffrainc

Crëwyd straeon Peredur a Perceval mewn dau le gwahanol a dyma nhw'n cwrdd o'r diwedd. Cyd-gynhyrchiad gyda Tu Hwnt i'r Ffin/Beyond the Border a La Maison du Conte

Sgidiau! Sanau!

Felly y dechreuodd pob stori'r Sipsiwn Cymreig/Teulu Abram Wood. Dyma'r un hiraf oll a adroddwyd gan John Roberts (dyna lun ohono a'i delyn ar y chwith) Comisiynwyd gan Theatr Clwyd.

Y Chwedl ar Lwyfan

cyfarwyddo a dramatwrgi

Gweithiais i fel cyfarwyddwr theatr cyn i mi droi yn storïwr gan ennill Gwobr Gyfarwyddo’r Ymddiriedolaeth Rose Bruford. Ym maes y chwedl ryw wedi cyfarwyddo, The Hero Light gan Dominic Kelly ac wedi gweithio gyda storïwyr eraill fel Jo Blake Cave, Phil Okwedy a thîm creadigol Fire in the North Sky. Os hoffech chi ragor o wybodaeth cliciwch yma neu ddanfon e-bost.

Hudol
— Y Sunday Times
Os cewch chi gyfle i weld y storïwr Michael Harvey, dylech chi fynd. Wir yr. Bwciwch eich tocynnau ac ewch
— The Coffee Lady Blog
Y mae Harvey yn feistr ar frig ei grefft... Y mae gan Michael Harvey bresenoldeb llwyfan gafaelgar gyda chymysgedd prin o hyder a gwleidd-dra, a’r ddwy elfen wedi wedi eu rhoi ar waith gyda sgil a diffuantrwydd
— Gary Raymond - Wales Arts Review
Meistr o storïwr sydd yn eich tywys trwy’r wlad y stori. Fe sydd yn creu’r cysylltiad uniongyrchol, sy’n enill eich ymddiriedolaeth ac sy’n gyrru bywyd y stori
— Tony Jones - dramodydd
Y mae angen storïwr da er mwyn adrodd stori werth gwrando arni. Roedd perfformiad Michael Harvey yn un gwych a doniol tu hwnt.
— Caroline Lynch - blog London Rocks!